O edrych arnaf Arglwydd mawr

(Gweddi am Faddeuant a Gras)
O edrych arnaf Arglwydd mawr,
  O'r faith drysorau llawn;
A llanw'r euog tlawd sy' heb ddim
  O'th nefol ddwyfol ddawn.

Duw, tyr'd yn glau, mae'n gyflawn bryd,
  'Rwy'n gruddfan dan fy mhoen;
Yn methu d'od i'r ffynnon rād,
  Santeiddiaf waed yr Oen.

O maddeu 'mai, a golch yn llwyr
  Fy euogrwydd oll i gyd;
Ac n'ad fi flino d'Ysbryd mwy
  Tra byddwyf yn y byd.

Rho nerth im' rhodio er dy glōd
  Ac i ti bellach fyw;
A threulio mywyd gyd a blās
  I ganmol gras fy Nuw.

               - - - - -
(Llef y Cystuddiol)
1,2,3,4,5,6;  1,3,4.
O edrych arnaf, Arglwydd mawr,
  Er mwyn yr unig Iawn;
A llanw'r euog tlawd
    heb ddim,
  A'th nefol ddwyfol ddawn.

Dyma bechadur truan gwan,
  Yn griddfan dan ei wae;
Can's grym fy mhla sydd wedi'm rhoi,
  I hollol lwfrhau.

Duw, tyr'd yn glau mae'n gyflawn bryd,
  'Rwy'n gruddfan dan fy mhoen;
Rho nerth i'm ddod
    i'r ffynon rad,
  Santeiddiaf waed yr Oen.

O maddeu 'mai, a golch yn llwyr
  Fy llygredd mawr i gyd;
Ac n'ad i'm flino'th
    Ysbryd mwy,
  Tra byddwyf yn y byd.

Mae temtasiynau'r ddraig yn gryf
  A minnau 'd wyf ond gwan:
Nid oes ond dwyfol nerth dilyth
  A'm deil i byth i'r lann.

Mae llid o'r dwyrain
    ac o'r de',
  Am gael fy mhen i lawr;
Trag'wyddol allu Brenhin ne',
  A'm dwg i'r lann ryw awr.
Er mwyn yr unig Iawn :: Mae bellach yn brydnawn
golch yn llwyr :: chliria'n llwyr

William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Bangor (alaw Gymreig)
  Bennet's (<1829)
Burford (Salmydd Chetham 1718)
Claudius (A H Mann 1850-1929)
Culross (Scottish Psalter 1635)

gwelir:
  Agorwyd pyrth y nefoedd wiw
  Nid oes o fewn i mi i gyd
  O edrych arnaf Arglwydd mawr

(Gweddi am Faddeuant a Gras)
O edrych arnaf Arglwydd mawr,
  O'r faith drysorau llawn;
A llanw'r euog tlawd sy' heb ddim
  O'th nefol ddwyfol ddawn.

Duw, tyr'd yn glau, mae'n gyflawn bryd,
  'Rwy'n gruddfan dan fy mhoen;
Yn methu d'od i'r ffynnon rād,
  Santeiddiaf waed yr Oen.

O maddeu 'mai, a golch yn llwyr
  Fy euogrwydd oll i gyd;
Ac n'ad fi flino d'Ysbryd mwy
  Tra byddwyf yn y byd.

Rho nerth im' rhodio er dy glōd
  Ac i ti bellach fyw;
A threulio mywyd gyd a blās
  I ganmol gras fy Nuw.

               - - - - -
(The Cry of the Afflicted)
 
O look upon me, great Lord,
  For the sake of the only Satisfaction;
And flood the poor, guilt one,
    without anything,
  With thy heavenly, divine gift.

Here a wretched, weak sinner,
  Groaning under his woe;
Since the force of my plague has put me,
  Completely to loosing heart.

God, come quickly it is a fulfilled time,
  I am groaning under my pain;
Give strength for me to come
    to the free fount,
  Of the most holy blood of the Lamb.

O forgive my fault, and wash completely
  All my great corruption;
And do not let me grieve
    thy Spirit any more,
  While ever I am in the world.

The temptations of the dragon are strong
  And I am nothing but weak:
There is only sincere, divine strength
  That keeps me forever up.

There is wrath from the east
    and from the south,
  Wanting to get my head down;
The eternal power of the King of heaven,
  Shall lead up some hour.
For the sake of the only Satisfaction :: It is already evening
wash completely :: clear completely

tr. 2016,20 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~